gorffennol, presennol, dyfodol
Mae’r rhwydwaith Adrodd Newid Gwledig yn dod â grŵp amlddisgyblaethol ynghyd o ymchwilwyr, artistiaid, sefydliadau cymunedol, cyrff anllywodraethol ac eraill sydd â diddordeb uniongyrchol mewn mynd i’r afael â’r agweddau diwylliannol a dynol ar newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth mewn cymunedau amaethyddol. Mae’n archwilio’r ffyrdd rydym yn sôn am newid gwledig yn y gorffennol, nawr ac yn y dyfodol. Y straeon a adroddwyd a pha naratifau a allai lywio ymatebion gwledig a chenedlaethol i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.

