Mae’r rhwydwaith hwn yn dod ag academyddion, sefydliadau cymunedol, artistiaid, cyrff anllywodraethol, ffermwyr ac eraill ynghyd sydd am drafod newid gwledig ar adeg argyfyngus i’r hinsawdd a byd natur. Mae gan y rhwydwaith, sy’n deillio o Gymru ac sy’n mabwysiadu safbwynt cronolegol llydan, ddiddordeb yn y cysylltiadau rhwng amaethyddiaeth, lle, cymuned, diwylliant ac iaith, a sut rydym yn adrodd newid gwledig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Cyd-destunau:
Newid yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth:
Yng Nghymru, mae ffermio’n gyfrifol am 90% o’r tir. Yn fyd-eang, mae amaethyddiaeth yn cyfrannu oddeutu 47% o fethan a 12% o allyriadau carbon. Yn y DU, mae amaethyddiaeth yn gyfrifol am 10% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae amaethyddiaeth ddwys a newidiadau eraill o ran defnydd tir ymysg y prif sbardunau sy’n difetha bioamrywiaeth.
NEWID GWLEDIG:
Mae’r drafodaeth ynghylch defnydd tir – ar gyfer cynhyrchu bwyd, dal a storio carbon, a gwrthdroi colledion o ran bioamrywiaeth – yn gynyddol gynhennus.
Mae prosiectau defnydd tir a fyddai’n helpu i ddal a storio carbon a gwella bioamrywiaeth, yn aml yn enw dad-ddofi tir, wedi cael eu gwrthwynebu’n helaeth; yn wir, mae profiad Cymru bellach yn enghraifft glasurol o sut i beidio â dad-ddofi tir. Barnwyd bod amgylcheddwyr yn ecowladychwyr sydd â’u bryd ar feddiannu tir ffermio yng Nghymru heb fymryn o barch tuag at wybodaeth leol, nac effaith newid defnydd tir ar gymunedau amaethyddol a’r iaith Gymraeg yn benodol.
Yn y cyfamser, mae ffermio’n wynebu cynhyrfau mawr drwy newidiadau i gymorthdaliadau, cytundebau masnach yn sgîl Brexit a thon newydd o gwmnïau buddsoddi’n prynu tir ffermio at ddiben gwrthbwyso carbon. Mae cymunedau gwledig yn parhau i brofi effaith ail gartrefi.
Heb ymdrin ag agweddau dynol a diwylliannol ffermio, a’r cymunedau ehangach mewn ardaloedd gwledig, ni fydd modd symud yn deg ac yn effeithiol tuag at ddyfodol gwyrdd.
CAU’R CYLCH CYTHREULIG:
Mae Cymru’n anghyffredin gan fod ganddi ddiffiniad statudol o gynaliadwyedd sy’n cynnwys pedwerydd piler, sef ‘cynaliadwyedd diwylliannol’. Mae hwn, ochr yn ochr â darpariaethau eraill Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn mynnu ateb ecolegol-ddiwylliannol cyfannol i newidiadau o ran defnydd tir gwledig.
Er mwyn i amaethyddiaeth newid a chael ei thrawsnewid yn llwyddiannus i fynd i’r afael ag argyfyngau cyfochrog newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, rhaid i gymunedau amaethyddol fod wrth wraidd y broses honno. Ar ben hynny, rhaid i les diwylliannau gwledig fod yn rhan o’r broses ehangach o drawsnewid tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Mae’r rhwydwaith hwn yn cynnwys artistiaid ac mae’n arbrofi ag arferion sy’n seiliedig ar y celfyddydau a lleoliadau.
CYLLID:
TMae’r rhwydwaith hwn wedi cael ei gefnogi gan gyllid:
NERC Discipline Hopping for Environmental Solutions
Learned Society of Wales: Wales Studies Workshop Grant
Cyswllt:
k.bohata@swansea.ac.uk