Mae Owen Shiers yn gerddor llawrydd, yn gyfansoddwr ac yn gynhyrchydd/peiriannydd, wedi teithio yn UDA, Ewrop, Affrica a’r Dwyrain Canol a chwarae mewn gwyliau fel WOMAD, Glastonbury a Shambala. Magwyd Owen ar aelwyd gerddorol Gymreig – o’r alawon swynol a grwydrai o weithdy telynau ei Dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a’r Cnapan. Yn 2016 derbyniodd ysgoloriaeth o’r Finzi Trust i ymchwilio a chasglu caneuon o Geredigion, Gorllewin Cymru, gan ddiweddu ei brosiect ‘Cynefin’. Enwebydd ar gyfer Gwobrau Gwerin Cymru 2019.
Ym mis Mawrth 2022 cafodd wahoddiad i weithio gyda rhwydwaith Adrodd Newid Gwledig a chyfansoddodd gân.
Geiriau:
Diwrnod Cneifio Yng nghwr lluesty'r mynydd, tra cysgai'r ddistaw ffridd 'mysg oriau mân y bore, ymhell cyn brig y dydd Ymgasglai y bugeilaid eu boliau'n fodlon llawn I hela bob diadell, cyn dychwel gyda'r wawr Ymlwybrant lawr o'r llethrau yn tyrru fel rhyw lif o fan petalau gwynion, dros fryn, a brwyn a grug a gwibio'r cŵn yn hebrwng y creaduriaid trom i ddwylo parod medrus, cymuned agos lon O am fod, yn Nant y Nôd Ar ddiwrnod hir o haf Roedd na sôn a chanu clod i'r cwmni ffraeth dymunol yn Nant y Nôd Ar ôl yr hel a chasglu, daw gorchwyl mawr y dydd o ddiosg pob un ddafad o'u gwisg anniben hir a sŵn llafur gwelleifiau uwch miri y prynhawn rhwng bloeddiau croch 'deg dafad!' wrth gasglu'r cneifiau mân Ac wedi iddynt golli eu clog brethynnog clyd Fe ddaw y gwaith o gyfri, a'i nodi fesul un A mwg y tân yn cosi â drewdod toddi'r pyg Wrth losgi marc dihafal ar ystlys noethlwm crŷn O am fod, yn Nant y Nôd Ar ddiwrnod hir o haf Roedd na sôn a chanu clod i'r cwmni ffraeth dymunol yn Nant y Nôd Pan flinai’r cwmni selog, daw lluniaeth swmpus per a chlebran a gloddesta yn prysur lenwi'r lle wrth ganu clod y gwragedd, a'u crasu cain di-ffael a diolch am fywoliaeth wrth fynydd, rhoddgar, hael Petai chi yng Nghwm Ceulan ar ddiwrnod hir o haf  melys sain yr hedydd yn tiwnio'n felys braf Cofiwch am y cwmni, bu yno'n tynnu'n nghyd Cyn llithro i anobaith 'mysg poenau mawr y byd
Adrodd Newid Gwledig
Fel artist, yr her fwyaf yn deillio o’r diwrnod trafod yn Hermon oedd penderfynu pa edau i blethu i mewn i ymateb creadigol. Roedd y testunau yn eang ac amrywiol, ond un agwedd arbennig gwnaeth sefyll allan i mi oedd y myfyrdodau gan y ffermwyr ar natur gymunedol ffermio yn y gorffennol o gymharu â heddiw. Roedd yn ymddangos yn druenus i mi fod pethau wedi dod mor gystadleuol. Gyda llawer o ffermwyr yn dioddef o unigrwydd ac iselder, nid yw’n anodd gweld sut y byddai rhoi’r gorau i helpu ei gilydd gyda thasgau fel cneifio a chynaeafu yn arwain at bobl yn teimlo’n unig. Roedd hefyd yn ymddangos yn glir i mi y gallai ail-feithrin cydweithrediad a hunanddibyniaeth leol fod yn ateb i hyn, a gwneud cymunedau yn fwy gwydn yn wyneb dyfodol ansicr.
Adeg y cyfarfod roeddwn i digwydd bod yn darllen llyfr gan Erwyd Howells o’r enw ‘Good Men and True’. Mae gwaith Erwyd yn gipolwg hanesyddol hynod ddiddorol ar fugeilio yng nghanolbarth Cymru yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Ar wahân i’r wledd o gymeriadau a’u straeon, yr hyn a’m trawodd yn y llyfr oedd pa mor cyd-ddibynnol ac agos oedd cymunedau ffermio tan yn gymharol ddiweddar – roedd y rhain yn gygyslltiadau oedd yn llythrennol yn cadw pobl yn fyw mewn trachinebau (fel eira mawr 1947) . Roedd disgrifiadau Erwyd o ddyddiau cneifio yn arbennig yn sefyll allan, gyda channoedd o bobl yn ymgynill i helpu’u gilydd yng nghanol haf – ynghyd â thomenni o fwyd, tynnu coes, gemau ac yn aml yn canu a llawenhau.
Wedi gorffen y llyfr ffoniais Erwyd i gael sgwrs ac, ymhlith llawer o bethau eraill, buom yn trafod nant o’r enw ‘Nant Y Nôd’ yng Nghwm Ceulan sydd tua phum milltir i’r de o’r lle rwy’n byw. Dywedodd Erwyd wrthyf am nam yny graig yno sy’n cynnwys craig sydd, wedi’i malu a’i chymysgu â braster anifeil, yn creu pastyn glas a ddefnyddiwyd i farcio defaid. Cefais fy swyno gan hyn a chychwynnais ar daith gerdded hir dros ddeuddydd i ddod o hyd i’r wythïen (wrth gydio mewn ychydig o lyfrau gan feirdd gwlad lleol yr oedd wedi eu hargymell). Teimlodd yn bwysig i mi ymweld â rhai o’r mannau lle digwyddodd y achlysuron hyn. i gael synnwyr o’r wlad ac, i gymryd peth amser i ddechrau rhoi pen at bapur.
Llwyddais i dodd o hyd i’r wythïen (er roedd yna ormod o ‘silt’ i mi fynd i mewn) a mynd ati i gyfansoddi fy narn wrth ddenu ar ddisgrifiadau Erwyd o’r dyddiau cneifio, ambell gerdd gan feirdd fel Dafydd Jones, Ffair Rhos – a’r tir ei hun. Bwriad y darn mewn ffordd syml yw dal rhai o’r agweddau mwy traddodiadol o gneifio â llaw sydd bellach wedi dod i ben (megis bwyta am hanner nos ar fore dydd Llun cyn mynd allan i hel y defaid– ni chaniateir cneifio ar y Sul !) ond hefyd i roi teimlad o’r ymdeimlad o agosrwydd a chymuned. Fellt,eEfallai fel ymateb creadigol y gallai’r darn helpu’r cenedlaethau iau i sylweddoli nad oes rhaid iddynt wneud popeth ar eu pen eu hunain, ac y gallai gofyn am gymorth (neu gynnig) fod yn rhywbeth a fyddai o fudd iddynt mewn mwy o ffyrdd nag y gallent ddychmygu.
Owen Shiers, Mai 2022.