Mae Kirsti yn Athro Llenyddiaeth Saesneg ac yn gyd-gyfarwyddwr CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) a Chanolfan Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi ar lenyddiaeth gan menywod, llenyddiaeth a lle , a llenyddiaeth cwir Cymreig.
Mae Cathryn Charnell White yn bennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arbenigo mewn hunaniaethau rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru’r ddeunawfed ganrif, yn ogystal â llenyddiaeth tywydd y Cyfnod Modern Cynnar a barddoniaeth merched Cymru. Mae hi ar hyn o bryd yn cwblhau blodeugerdd o lenyddiaeth tywydd Cymraeg ar gyfer Cyhoeddiadau Barddas, Trysorfa’r Tywydd (2021).
Mae Elaine Forde yn Ddarlithydd yn Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei chefndir mewn gwyddor gymdeithasol, ac mae hi’n ethnograffydd profiadol, ar ôl cwblhau gwaith maes hirdymor yng ngorllewin Cymru, ac yn fwy diweddar, São Tomé et Príncipe yng Ngorllewin Affrica. Mae hi’n archwilio cydweithrediad rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil peirianneg i dechnolegau ynni adnewyddadwy newydd.
Mae Sophie Jenkins yn swyddog datblygu cymunedau i PLANED, ac mae’n gweithio gyda chymunedau yng nghefn gwlad Gogledd Sir Benfro ar brosiectau sy’n cael eu hariannu gan grantiau sy’n ymwneud â threftadaeth a diwylliant, yr amgylchedd a bioamrywiaeth yn ogystal ag adeiladu gwytnwch.
Artist a chyfieithydd o Graig-Cefn-Parc yw Esyllt Angharad Lewis sy’n symud rhwng Cymru a Glasgow. Mae hi wedi gweithio fel cyfieithydd i Gwmni Prysg, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac fel Cydymaith Cyfathrebu i Peak Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru. Hi yw cyd-olygydd cyhoeddiadau Y Stamp a mwngwl, ac mae’n aelod o Gonsortiwm Cymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru. Graddiodd mewn Darlunio o Goleg Celf Glasgow yn Awst 2022, gweler gwaith ei sioe radd fan hyn.
Artist, awdur a gwneuthurwr theatr o Felinwynt, Ceredigion, Gorllewin Cymru yw Rowan O’Neill. Mae ei hymchwil ac ymarfer creadigol yn cynrychioli ymchwiliad parhaus i iaith, hunaniaeth, lle a pherthyn sydd wedi’i ysbrydoli gan ei magwraeth yn ardal amaethyddol wledig Cymreig. Mae ei gwaith hi yn aml yn defnyddio caneuon a naratifau hunangofiannol fel man cychwyn ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a pherfformiadau cymunedol sy’n archwilio amser achyddol, ymfudo a chydgysylltiad lleoedd a phobl.
Mae Chris Pak yn Ddarlithydd Ysgrifennu Cyfoes a Diwylliannau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ffuglen wyddonol a newid hinsawdd, yn enwedig ar straeon am derfformio a geobeirianneg. Yn ddamcaniaethol mae ei waith wedi’i leoli ar groesffordd y dyniaethau amgylcheddol, astudiaethau dyn-anifeiliaid a gwyddoniaeth a llenyddiaeth.
Mae Ian Rappel yn ddaearyddwr radical, ecolegydd cadwraeth a rheolwr tir yn ôl cefndir. Mae wedi bod yn gweithio ym maes cadwraeth natur i gyrff anllywodraethol ac yn y byd academaidd ers 1993 – ym Mhrifysgol Caerdydd, SOAS, amrywiol Ymddiriedolaethau Natur a Chymdeithas Genedlaethol yr AHNEau. Ef yw Cyfarwyddwr y Coleg Ffermio Go Iawn a Diwylliant Bwyd yn y Real Farming Trust. Mae hefyd yn gynghorydd cwricwlwm a thir i Goleg y Mynyddoedd Duon yng Nghymru.
Owen Sheers
Mae Owen yn fardd, awdur a dramodydd arobryn. [Cyfieithiad llawn i ddilyn.]
Dr Lisa Sheppard
Mae Lisa Sheppard yn Uwch Gyfieithydd ar y Pryd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yn awdur ac yn ymchwilydd llawrydd i lenyddiaethau Cymru. Mae ei gwaith yn bennaf yn archwilio materion yn ymwneud â hunaniaeth, cenedligrwydd, rhyw ac iaith mewn ffuglen gyfoes.
Network Consultant
Mae Dr Iain Biggs yn awdur, artist gweledol, cyn Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil PLACE, UWE, Bryste. Roedd ganddo Gymrodoriaeth Ymweld Sefydliad Moore yn NUI, Galway, yn 2014 ac ar hyn o bryd mae’n Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Celf a Dylunio Duncan of Jordanstone, Prifysgol Dundee, a Chanolfan Ymchwil y Dyniaethau Amgylcheddol, Prifysgol Bath Spa. Yn hyrwyddwr mapio dwfn, mae ar hyn o bryd yn cydlynu LAND2, PLACE International a Mapping Spectral Traces.
Mae Tom Bullough yn nofelydd, awdur ffeithiol ac actifydd sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog. Mae ei waith dysgu yn cynnwys y cwrs “Ysgrifennu, Hinsawdd a’r Byd Byw” yng Ngholeg y Mynyddoedd Duon. Ar hyn o bryd ef yw Cydymaith Stori Castell y Gelli. Ei lyfr diweddaraf yw Sarn Helen: A Journey Through Wales, Past, Present and Future (Granta 2023)
Ar ôl degawd o ddysgu mewn ysgolion cynradd ar draws Dyfed adenillodd ei wreiddiau amaethyddol trwy gymryd swydd Swyddog Cadwraeth Fferm gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyswllt uniongyrchol rhwng yr Awdurdod a’r llawr gwlad wrth ymdrin â’r defnydd o diroedd comin, ehangu Bioamrywiaeth a lleihau lefelau Carbon.
Awdur a gweithiwr celfyddydol o Lanfihangel Genau’r Glyn,
Ceredigion, yw Dylan Huw, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Astudiodd yn King’s College London a Goldsmiths, ac mae wedi bod yn rhan o dîm Peak Cymru ers gwanwyn 2020.
Mae Ffion Jones yn academydd ac yn artist a gyflogir fel darlithydd rhan amser mewn Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei gwaith celf a’i hymarfer-fel-ymchwil yn cael eu llywio gan ei phrofiadau o dyfu i fyny ar fferm ddefaid ucheldirol â denant 1000 erw ger Machynlleth a’i phrofiad presennol o ffermio fferm da byw cymysg 120 erw yn Nhalybont y tu allan i Aberystwyth.
Helen Lucocq
Mae Helen Lucocq MRTPI yn bennaeth Polisi a Strategaeth yn Y Bannau, lle mae hi wedi gweithio ym maes datblygu polisi ers 16 mlynedd.
[cyfieithiad llawn i ddilyn]
Mae Karen Morrow yn Athro mewn Cyfraith Amgylcheddol, Prifysgol Abertawe, a chyn hynny bu’n gweithio ym Mhrifysgol Leeds, Prifysgol Durham, Prifysgol Queen’s Belfast a Phrifysgol Buckingham. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gyfranogiad y cyhoedd mewn cyfraith amgylcheddol a llunio polisïau, gyda phwyslais arbennig ar rywedd, ac mae hi wedi cyhoeddi’n helaeth yn y meysydd hyn.
Mae Dr Roger Owen yn Ddarlithydd mewn Theatr a Chynhyrchu Theatr yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei waith dysgu yn canolbwyntio ar actio ar gyfer llwyfan a chamera, cyfarwyddo, theatr a chymdeithas, ac Astudiaethau Perfformio. Mae ei brif faes ymchwil yn ymwneud â theatr yn yr iaith Gymraeg, a pherfformio yn y cyd-destun gwledig Cymreig.
Mae Anna yn ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Abertawe, yn gweithio ym meysydd Daearyddiaeth Ddynol feirniadol a’r Dyniaethau Amgylcheddol. Mae ei hymchwil yn ymwneud â deall y gwerthoedd dynol, yr emosiynau, y naratifau, a’r canfyddiadau sydd wrth wraidd yr ymatebion i’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a sut y gall y rhain gefnogi newid cymdeithasol cyflym.
Mae Ben Rawlence yn awdur arobryn, yn actifydd, yn gyn-awdur lleferydd i Syr Menzies Campbell a Charles Kennedy. Mae’n gyd-sylfaenydd a phrif weithredwr Coleg y Mynyddoedd Duon, campws eco-amaeth arbrofol 120 erw.
Mae Sophie Wynne-Jones yn ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Bangor lle bu’n gweithio ers 2015. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gysylltiadau dynol-natur a llywodraethu amgylcheddol, gan archwilio prosesau newid cymdeithasol-ecolegol a’r rhyngweithiadau rhanddeiliaid cysylltiedig.
Cyn Aelodau
Jodie Bond