CYFARFOD HERMON, Mawrth 23ain 2022
Dr Roger Owen
Mae gen i rai sylwadau ar gyflwyniad Sophie, yn ymwneud â’r materion a godwyd gan y ffermwyr lleol y bu hi’n cyfweld â nhw, ond hefyd – ac efallai’n bennaf – yn deillio o’r profiad o wrando arni yn ail-adrodd eu geiriau. Yr hyn a’m tarodd oedd y berthynas rhwng profiad a dadleuon y gwahanol garfannau o ffermwyr ynglŷn â’r heriau sy’n eu wynebu yn yr oes sydd ohoni, a’i gafael hi ar lais, acen ac idiomeg y rheini y bu’n hi eu cyfweld â nhw. Fel rhywun a gafodd ei fagu nepell o’r ardal (ac ar ffiniau parth y dafodiaith a glywyd yng nghyflwyniad Sophie), ond sydd bellach yn ennill bywoliaeth mewn prifysgol, deuthum yn ymwybodol o’r gwahaniaeth sylweddol rhwng teithi iaith lafar y cyflwyniad a’r iaith ddadansoddiadol y mae’n rhaid i mi (fel mater o gonfensiwn academaidd) ei defnyddio wrth drafod y profiad hwnnw.
Yn ei gyfrol fendigedig Ar Lafar, Ar Goedd, mae’r hanesydd David Jenkins yn sylwi ar y defnydd o derminoleg ar lafar yn ardal Aberporth yn ne Ceredigion ac ar y berthynas rhwng dulliau iaith a’r ymdeimlad o drigo a adlewyrchid ac a gynhyrchid ganddyn nhw.
Y gwahaniaeth sylfaenol y mae ef yn pwyntio ati ar ddechrau ei gyfrol yw honno rhwng dosbarthiadau neu gysyniadau neu dermau sylwebwr a brodor. Mae’n sôn am ffurfiau ieithwedd lafar fel pe baent ‘yn gelfi meddyliol i bobl, yn offer o syniadau, yn ganllawiau at amgyffred a thrafod eu hamgylchedd mewn ffordd a fyddai’n dealladwy iddynt oll: yn hynny o beth, hyrwyddent y cyfathrebu a’r cyfathrachu na fedr na chymdogaeth na chymdeithas hebddynt. Gwir y dywedwyd, “Figures of speech are figures of thought.”’.
Yna, mae’n ymhelaethu ar y gwahaniaeth pwysig rhwng yr hyn sy’n cael ei gloriannu gan y termau sylwebwr a brodor, a hynny mewn tri phen. Yn gyntaf, dywed nad dadlau y mae ‘fod un yn gywir a’r llall yn anghywir’, eithr bod ‘angen y ddau ond at ddibenion gwahanol.’ Ond mae Jenkins ychydig yn fwy uniongred na hyn: ei ail bwynt yw mai ‘camsyniad fyddai priodoli’r naill ddosbarthiad i’r rhai sy’n synied yn ôl y llall: perthynant i wahanol feysydd trafod’ (fe fydd yn rhaid sylwi yn fanylach ar hyn maes o law). A’i drydydd pwynt yw fod ‘gwahaniaethau rhwng “dosbarthiad sylwebwr” a “dosbarthiad brodor” yn briodol mewn llawer cyswllt’. Gellir cymhwyso’r termau, felly (gyda bendith Jenkins, fel pe bai), i drafod sefyllfaoedd a chysylltiadau eraill yn ddiwylliannol a chymdeithasol, ac i feddwl yn ehangach am y sefyllfaoedd lle y gall y gwahaniaeth rhwng ‘brodorion’ a ‘sylwebwyr’ fframio neu effeithio ar drafodaethau sy’n cynnwys y naill garfan a’r llall.
Yr hyn sy’n ddiddorol i mi yw bod Sophie yn frodor ac yn sylwebydd. Wrth gwrs, nid yw David Jenkins yn haeru nad oes modd i frodor fod yn sylwebydd, nac i sylwebydd fod yn frodor, ond bod natur y ddau rôl mor sylfaenol wahanol fel nad oes modd chwarae’r naill a’r llall ar yr un pryd. Mae ieithwedd, strwythur meddwl a phersbectifau’r naill a’r llall yn wahanol, ac yn cael eu mesur a’u profi yn ôl safonau a gwerthoedd sy’n gwbl annhebyg i’w gilydd. Ond wrth iddi gloriannu a dadansoddi ymatebion y ffermwyr fel sylwebydd, fe ddyfynnodd hi eu geiriau fel brodor. Os gymerwn ni Jenkins ar ei air, sef bod sylwebwyr a brodorion yn ‘[perthyn] i wahanol feysydd trafod’, fe welwn hefyd bod modd i’r cyfnewid rhwng y ddau fod yn llithrig, yn chwimwth ac yn gymhleth…
Dyna ddechrau’r llif meddwl! Mae gen i ryw syniad o geisio datblygu hyn mewn i erthygl…
Gan gadw cyflwyniad Sophie fel enghraifft yn fy mhen, fe fyddwn i’n mynd ymlaen i gysylltu’r gwahaniaeth rhwng brodor a sylwebydd gyda rai o sylwadau Tracy C. Davis ynglŷn â theatricaliaeth yn ei chyfrol (gyda Thomas Postlewait) Theatricality. Mewn pennod ar ‘Theatricality and Civil Society’, mae Davis yn dadlau bod theatricaliaeth wrth wraidd y modd yr ydym yn cysylltu theatr (gallwn ymestyn hyn at berfformiadau a chyflwyniadau cyhoeddus o sawl math), y profiad o wylio a dinasyddiaeth; a’i fod yn allweddol bwysig i’r modd rym ni’n amgyffred rhyngymwybodolrwydd yn y sffêr cyhoeddus (‘the way we experience intersubjectivity in the public sphere’). Mewn geiriau eraill, mae yna elfen theatricalaidd yn perthyn i’r modd rym ni’n cyflwyno, cynrychioli a dychmygu ein safbwynt ein hunain mewn perthynas â phobl eraill. Ac mae’r ffordd rym ni’n cael ein gwahodd i gyfrannu ac i gyfranogi o’r drafodaeth honno yn gosod telerau ar gyfer trwyddedu ac awdurdodi yr hyn sy’n cael ei gyflwyno.
Yr hyn sy’n cymhlethu pethau – mewn ffordd ddiddorol! – yw’r hyn yr oedd nifer o’r ffermwyr yn dweud yn y cyfweliadau; sef bod gwahaniaeth sylweddol rhwng agweddau’r genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn, a bod newidiadau mawr ar droed yn y diwydiant. Mae’r sail sydd gennym i gyffredinoli wrth gynrychioli a cheisio lleoli ein hunain mewn perthynas â’r holl newid hwn yn simsan – mae’r ‘ddaear’ (neu efallai y gallwn ddweud ‘ y llwyfan’) o dan ein traed yn symud. Eto, i mi mae hyn yn cysylltu gyda’r cysyniad o ‘droedle’ y mae J. R. Jones yn ei ddefnyddio yn ei gyfrol Prydeindod wrth gyflwyno seiliau ei gysyniad ef o sofraniaeth genedlaethol, sef mai ‘mater o droedle yw bodolaeth pobl’. Mae ef yn sôn fel y gweithiodd ideoleg Prydeindod ar bobl Cymry i’w ‘gwagio’ o’u hunaniaeth gysefin fel Cymry; ond mae mwy na hynny’n gweithio ar bobl (boed Cymry ai peidio) yn yr hinsawdd bresennol. Mae bydeangoli (globalization) a newid hinsawdd hwythau yn symud ac yn dad-sefydlogi’n ‘troedle’ yn y byd cyfoes; ac roedd atseiniau’r holl bethau hyn i’w clywed yng nghyfweliadau’r ffermwyr.
1 David Jenkins, Ar Lafar, Ar Goedd (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2007).